Salon fodern, chwaethus yng nghanol Bangor yng ngogledd Cymru.

Dewch draw i'r salon lle gall ein staff cyfeillgar a chymwys eich helpu i ymlacio, eich pampro a gofalu am eich anghenion o ddydd i ddydd.

Sefydlwyd y salon ym Mangor dros ugain mlynedd yn ôl a chyda'n staff profiadol a'n therapyddion cymwys mae gan New Image enw da fel salon ardderchog sy'n cynnig amrywiaeth eang o driniaethau, gan ddefnyddio dim ond cynnyrch gorau fel Caci, Guinot, Crystal Clear, Harmony Gelish, a thriniaeth laser Ellipse.

Mae Lisa a'r tîm yn edrych ymlaen i'ch croesawu. 


SALON NEW IMAGE